Gofynnwyd i’r tîm fod yn barod i gael eu galw allan nos Fercher gan Heddlu Dyfed Powys oherwydd pryder dros gerddwr a oedd yn hwyr yn dychwelyd o daith gerdded uwchben Llyn Efyrnwy. Fel oedd y triniwr galwadau ar fin newid y statws i alwad allan, cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys fod y cerddwr wedi dod i’r golwg yn ddiogel ac yn iach. Cafodd y tîm eu rhyddhau toc wedi 9yh.